Exuperius Pickering ar y Pont Gadwyni Llandysilio
Exuperius Pickering
Codwyd y Bont Gadwyni gyntaf ym 1817 i gysylltu dau lwybr mawr trafnidiaeth yn y Gogledd, sef camlas Llangollen a’r ffordd o Lundain i Gaergybi. Yr oedd y mentrwr lleol, Exuperius Pickering, yn awyddus i fanteisio ar Gamlas Llangollen i gludo’i nwyddau – glo, calch a barrau haearn – draw i briffordd Telford a sicrhau mynediad cyflym a rhad i farchnadoedd y gogledd. Er mwyn sicrhau hynny, treuliodd gryn amser o 1814 ymlaen yn pwyso ar Gwmni Camlas Llangollen i wella darn bwydo’r gamlas a rhoi iddo ef, a neb arall, fynediad i’r ceiau a’r pontydd. Yn y pen draw, bu codi’r bont yn fodd iddo fonopoleiddio’r fasnach lo yn yr ardal honno.
Pont Pickering a'r sbïwr diwydiannol o Ffrainc
Adeiladwyd pont Pickering o ddec pren a wedi'i gynnal gan gadwyni haearn gyr oddi isod. Rhoddwyd haen o bridd a cherrig dros y dec. O wely’r afon cynhelid y bont gan chwe cholofn dderw digon o faint i wrthsefyll llifddyfroedd mawr. Gwnaed lluniadau arolygu manwl o’r bont honno gan y sbïwr diwydiannol o Ffrainc, J. Dutens, ym 1819, ac yn ei adroddiad cafwyd y sylw ‘nid oes modd rhoi terfyn ar yr athrylith... fe geir yn Llundain enghreifftiau o bontydd cadwyni, ond ôl meddwl rhagorach sydd i gynllun y bont dros Afon Dyfrdwy’. Erbyn 1870, y farn oedd bod cyflwr y bont yn rhy wael iddi gael ei hadfer ac fe’i tynnwyd oddi yno. Yn ei lle, codwyd pont ym 1876 gan Henry Robertson, peiriannydd pontydd a rheilffyrdd enwog a pherchennog Gwaith Haearn Brymbo. Mae’n hysbys i’w gynllun ddilyn un y bont gyntaf ond bod y colofnau a gynhaliai’r bont yn rhai haearn yn hytrach na derw.
Pontydd eraill ac adfer
Er i’r rhan fwyaf o’r bont gael ei golchi ymaith gan lifogydd difrifol ar 16 Chwefror 1928, dal eu tir wnaeth ei chadwyni cynhaliol. Penderfynodd Syr Henry Robertson, mab yr Henry blaenorol, ailgodi’r bont ar batrwm Pont Menai, a dywedir iddo ailddefnyddio cadwyni’r bont wreiddiol. Crogwyd chwech o’r cadwyni hynny i gynnal y dec oddi uchod, a gosodwyd dwy arall unwaith eto o dan y dec. Gwelliant mawr oedd y cynllun hwnnw am ei fod yn gryfach ac yn gallu gwrthsefyll llifogydd. Costiodd gyfanswm o £303.11.00. Pan agorwyd y bont cynhaliwyd diwrnod o ddathlu a rhoddwyd 45 o’r gweithwyr i sefyll ar y bont i ddangos pa mor gryf oedd hi.
Caewyd y bont yn y pendraw ynghanol y 1980au. Gan ei bod hi mewn cyflwr peryglus, does dim modd mynd ati. Mae cynllun a graddfa’r cadwyni a ddefnyddiwyd yn y drydedd bont mor debyg nes ychwanegu cryn bwysau at y ddamcaniaeth i gadwyni’r bont wreiddiol gael eu storio a’u hailddefnyddio 111 o flynyddoedd yn ddiweddarach.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
Sylwadau (1)
Submitted by Glyn406 on Sul, 23/09/2018 - 11:39
Time to update the last paragraph re accessibility?
You must be logged in to leave a comment