Dyffryn Nantlle a'i chwareli llechi
Dyffryn rhewlifol yng Ngwynedd yw Dyffryn Nantlle. O'r dyffryn y daeth llechi toi y cafwyd hyd iddynt yng nghaer Rufeinig Segontium gerllaw, ac erbyn y ddeunawfed ganrif roedd chwarel Y Cilgwyn yn adnabyddus am ei llechi coch llachar. Yn wahanol i'r cwmniau mawr ym Methesda, Llanberis a Blaenau Ffestiniog, roedd chwareli llechi Dyffryn Nantlle'n cael eu gweithredu'n annibynnol ac ar raddfa lawer llai. Eto'i gyd, roedd y dyffryn yn dal yn un o brif gynhyrchwyr llechi'r byd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd y dull cloddio brig a systemau cludiant arloesol a ddefnyddid yn chwareli'r Cilgwyn a Phenbryn o ddiddordeb mawr i beirianwyr mwyngloddio o Ffrainc a'r Almaen. Ymwelodd peirianwyr megis Hanns Bruno Geinitz, Rudolph Nasse a C. Larivière â'r chwareli'n rheolaidd o'r 1850au i'r 1880au gan wneud nodiadau manwl i annog gosod systemau effeithlon cyffelyb yn eu gwledydd eu hunain, math ar ysbio diwydiannol cynnar!
More collections with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment