Skip to main content

Bangor

Mae Bangor wedi bod yn ddinas gadeiriol ers y ddeuddegfed ganrif, gyda'r eglwys wreiddiol wedi'i sefydlu meddir yn y chweched ganrif gan Sant Deiniol. Arhosodd Bangor yn dref gymharol fechan tan ddechrau'r diwydiant llechi ger Bethesda yn niwedd y ddeunawfed ganrif ac agor y bont grog dros y Fenai yn 1826.
Roedd Castell Penrhyn ar gyrion y ddinas, a mynyddoedd Eryri gerllaw, yn denu amryw o deithwyr cynnar i fwynhau harddwch yr ardal o amgylch Bangor. Gyda'r cynnydd ym mhoblogrwydd trefi glan môr ar hyd arfordir gogledd Cymru, gwnaed ymdrechion tebyg i hybu Bangor yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Agorwyd pier yno yn y diwedd yn 1896, ond heb draethau tywodlyd Y Rhyl a Llandudno, ni wnaeth twristiaeth glan môr gydio yno mewn gwirionedd. Yn 1836 fe wnaeth y teithiwr o'r Almaen, Karl von Hailbronner, gymharu'r lle i 'Fae Naples ar raddfa lai' wrth iddo edrych dros Fae Biwmares a chlywed sŵn clychau'r eglwys gadeiriol yn tonni dros y ddinas gyda'r nos. Erbyn 1851 cofnododd Ludwig Rellstab, teithiwr arall o'r Almaen, fod awyrgylch dawel a heddychlon y ddinas gynt wedi cael ei ddisodli erbyn hynny gan sŵn llu o dwristiaid a cherbydau'n cael eu tynnu gan geffylau.

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment