Skip to main content

Casgliad Llongau Hansen

Ym 1891, agorodd Lars Peter Hansen fusnes ffotograffiaeth yn Nociau Caerdydd. Morwr o Ddenmarc ydoedd ac roedd yn ymddiddori mewn ffotograffiaeth ac, ar y cyd â’i fab, Leslie, sefydlodd fusnes llewyrchus yn y dociau prysur, yn gwerthu lluniau o longau i forwyr a pherchnogion llongau. Yn dilyn ymddeoliad Leslie ym 1975, prynodd Amgueddfa Cymru'r casgliad o negatifau, a oedd yn cynnwys dros 4,500 o luniau o longau a dynnwyd yn Nociau Caerdydd rhwng 1920 a 1975.

Cafodd y delweddau yma eu digideiddio trwy rodd gan Sefydliad Esmée Fairbairn i Amgueddfa Werin Cymru yn 2011.

Mae'r catalog llawn ar gael yma: Casgliad Llongau Hansen

Am fwy o wybodaeth am y casgliad a'r broses o archebu printiau edrychwch yma: Casgliad ffotograffau ddiwydiannol Hansen

Gwelediadau:
4222
Ffefrynnau:
0
Casgliad wedi’i greu:
04/10/2017

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment