Llanfrechfa Grange: Clywedig y cyn Guddiedig
Fe'i gelwir yn 'The Grange', ac mae'n un o'r ysbytai arhosiad hir olaf o'i fath ung Nghymru. Cafodd ei agor yn wreiddiol yn 1953 fel cyfleuster i bobl ag anabelddau dysgu.
Yn y 1960au cynnar roedd gandoo fwy na 500 o welyau, wedi'u lledaenau ar draws nifer o filâu.
Yn 1983, rhoddodd 'Strategaeth Cymru Gyfan ar Ddatblygu Gwasanaethau i Bobl ag Anfantais Feddyliol' ddiwedd ar ysbytai arhosiad hir, a dechreuwyd ceisio ailsefydlu preswylwyr yn y gymuned. Ar y pryd, roedd y Grange yn gal yn gartref i 300 o bobl.
Er i'r ysbyty gau'n swyddogol yn 2008, mae Grange Llanfrechfa yn dal i ddarparu llety ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Mae'r gofal hwn yn cael ei ddarparu mewn tri thŷ ar y safle.
Mae yna hefyd Uned Asesu a Thriniaeth 10 gwely sy'n cynnig ymateb cyflym i bobl ag anableddau dygsu y mae ganddynt broblemau emosiynol difrifol a/neu salwch meddwl. Mae hyn yn golygu bod Grange Llanfrechfa yn parhau i weithredu fel ysbyty a chartref i bobl ag anableddau dysgu.
Dri deg pedwar o flynyddoedd ar ôl i 'Strategaeth Cymru Gyfan' gael ei rhyddhau, mae'r Bwrdd Iechyd yn gweithio tuag at gau'r llety ar y safle er mwyn darpau cartrefi mwy priodol yn y gymuned.
More collections with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment