Corwynt De Cymru 1913
Corwynt De Cymru 1913
Ym mis Hydref 1913, achosodd storm ddifrifol gyfres o gorwyntoedd ar draws de orllewin Prydain, a chyrhaeddodd un y tir yng nghymoedd y de. Roedd llwybr y corwynt yn 11 milltir. Lladdwyd tri o bobl, ac amcangyfrifwyd bod gwerth £40,000 o ddifrod, sef tua £2.5 miliwn heddiw. Croesodd y storm Afon Hafren, gan gyrraedd y tir ger Efail Isaf a Llanilltud Faerdre. Yna, teithiodd i’r gogledd, gan achosi cryn ddifrod yng Nghilfynydd, Abercynon ac Edwardsville.
Cafodd y delweddau hyn o gasgliad Amgueddfa Werin Cymru ei digideiddio trwy rodd gan Sefydliad Esmée Fairbairn yn 2011.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment