Skip to main content

Tirwedd cynhanesyddol Sir Fynwy

Nid archaeolegwyr yn unig sy’n chwilio am yr atebion i ddirgelion ein hanes. Daw rhai gwrthrychau i’r fei wrth i drigolion craff daro arnynt yn yr ardd neu ar y bryniau.

Mae eraill yn mynd ati’n ddyfal i chwilio amdanynt, trwy droedio tir coch (gyda chaniatâd y perchennog wrth gwrs!) gan gadw cofnod gofalus o fan canfod y gwrthrychau.

Er mai anaml y clywch chi am y canfyddiadau hyn ar y newyddion, maent yn ein helpu i greu darlun mwy cyflawn o berthynas pobl cynhanesyddol â’r tir. O lawr y dyffryn i ben y bryn, ac o gysgod y coed i ddŵr yr afon; dyma dir hela, byw, marw, teithio a chymdeithasu ein cyndeidiau cynhanesyddol.

Cafodd y casgliad ei arddangos yn Eisteddfod Genedlaethol 2016 fel rhan o gyfraniad Amgueddfa Cymru i'r stondin Lle Hanes.

Gwelediadau:
2072
Ffefrynnau:
0
Casgliad wedi’i greu:
26/07/2016

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment