Skip to main content

Injan ag enw’r Eisteddfod!

Ar 4 Awst 1987, yng ngorsaf Porthmadog, rhoddwyd yr enw ‘Eisteddfod Genedlaethol’ i injan locomotif Rheilffyrdd Prydain dosbarth 37 rhif 37429. Roedd yr orsaf dafliad carreg o Faes yr Eisteddfod y flwyddyn honno, a pherfformiwyd y seremoni enwi gan Fardd y Goron, Gruffydd Jones. Rhoddwyd enwau Cymreig i sawl injan dosbarth 37 yn y cyfnod hwnnw.

Dechreuwyd gweld injans dosbarth 37 ar reilffyrdd Prydain rhwng 1960 a 1965 yn sgil Cynllun Moderneiddio 1955 i gael gwared ag injans stêm. Daeth nifer ohonynt i dde Cymru, lle’r oedd injans stêm wedi diflannu’n gyfan gwbl erbyn 1965. Bu’r injans dosbarth 37 yn gweithio ar y rhan fwyaf o reilffyrdd Cymru ar ryw adeg neu ei gilydd. Fe’u defnyddiwyd yn aml ar wasanaethau cludo teithwyr yng ngogledd Cymru yn y 1990au.

Cafodd y casgliad ei arddangos yn Eisteddfod Genedlaethol 2016 fel rhan o gyfraniad Amgueddfa Cymru i'r stondin Lle Hanes.

Llun: ©Evie Lloyd collection

Gwelediadau:
2087
Ffefrynnau:
0
Casgliad wedi’i greu:
25/07/2016

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment