Skip to main content

Neges Heddwch ac Ewyllys Da gan Yr Urdd

Mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd yn rhoi cyfle i bobl ifanc Cymru i greu a perfformio neges sy’n cael ei anfon at bobl ifanc ar draws y byd. Ers 1922 mae’r neges wedi bod yn ysgogi ac yn ysbrydoli gweithgarwch dyngarol a rhyngwladol yr Urdd. Anfonwyd y neges gyntaf gan Y Parch Gwilym Davies o Gwm Rhymni. Roedd yn heddychwr mawr ac yn flaenllaw wrth sefydlu Undeb Cymreig y Cenhedloedd Unedig ac yn ddiweddarach UNESCO. Credai mewn dod â phlant y cenhedloedd ynghyd, ac fe benderfynnodd Syr Ifan y dylai’r Urdd ymuno gyda’r fenter o gyhoeddi’r neges er mwyn dileu’r anwybodaeth a’r rhagfarnau a oedd yn bodoli rhwng cenhedloedd y byd. Darlledwyd y neges am y tro cyntaf ar y BBC World Service ym 1924 ac erbyn heddiw mae’r neges yn ymddangos mewn sawl iaith ar y we, ac yn cyrraedd pedwar ban byd. Yn y 50au rhoddwyd cyfrifoldeb i’r Urdd i gyhoeddi Neges Heddwch ac Ewyllys Da yn flynyddol ar ddydd Ewyllys Da, 18 Mai, sef dyddiad y gynhadledd heddwch gyntaf yn yr Hâg ym 1899. http://www.urdd.cymru/cy/dyngarol/neges-heddwch-ac-ewyllys-da/

Uwchlwytho gan
Dyddiad Ymuno:
24/03/2015
Gwelediadau:
4853
Ffefrynnau:
0
Casgliad wedi’i greu:
20/04/2016

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment