Elaine Lewis
Roedd y Coroni yn fwy pwysig na choncro Everest ar y pryd i'r cyfwelai hwn. Mae'n son am yr Arwisgiad gyda balchder a chofia'n benodol am wisg y Frenhines, a George Thomas yn esbonio swn ffrwydrad i'r Tywysog. Trafodir Aberfan a'r ffaith fod y teledu trwy ddarlledu delweddau yn cael llawer mwy o effaith na fyddai clywed am y trychineb yn unig. Teimla bod darlledu yn ystod Streic y Glowyr wedi ei reoli'n llym ac nad oedd y portread o'r glowyr a'u hachos yn un teg. Wrth drafod y ddau Refferendwm ar Ddatganoli - cysyniad nad oedd yn ei gefnogi - dywed iddi aros ar ei thraed i wylio canlyniadau 79 gan y disgwyliai i'r canlyniad fod yn erbyn datganoli, ond iddi fynd i'r gwely cyn i ganlyniadau 97 gael eu cyhoeddi am ei bod yn disgwyl i'r garfan 'Ie' ennill.
More collections with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment