Byron Young
Atgof cynharaf y cyfwelai yma o deledu yw gwylio'r Coroni a dysgu'r anthem. Mae'n trafod Tryweryn a'r protestiadau, ac effaith Tryweryn ar Blaid Cymru. Cofia am yr emosiwn wrth i Cliff Mitchelmore ddarlledu o Aberfan ac mae'n son am effaith y delweddau arno ac ar dde Cymru yn gyffredinol - teimla i'r diflastod barhau am amser hir ar ol y trychineb. Trafodir yr Arwisgiad a rhan George Thomas yn y dathlu, ei ymwybyddiaeth o brotestiadau yn erbyn yr Arwisgo, ac effaith gadarnhaol y seremoni ar Gaernarfon a thwristiaeth. Sonia am effaith darlledu Rygbi yn y 70au - o'r ochr bositif mae wedi dod a'r gem i bawb ac wedi ysgogi sefydlu clybiau, ar y llaw arall teimla bod darlledu wedi cael effaith negyddol ar werthiant tocynnau i'r gemau. Mae'n son am weld gemau'n fyw ac wedyn ei hail-wylio ar y teledu er mwyn gweld yn union beth ddigwyddodd. Sonia am y balchder cenedlaethol a ddaeth yn sgil llwyddiant tim o wlad fach yn erbyn goreuon y byd. Mae llwyddiant y llywodraeth i ddarlledu ei phropaganda yn cael sylw wrth iddo drafod Streic y Glowyr. Cyfeiria hefyd at wylio S4C er nad yw'n siaradwr Cymraeg.
More collections with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment