Skip to main content

David Lloyd

Mae'r cyfwelai yma'n trafod y pleser a gaiff o wylio rhaglenni hanesyddol, daearyddol, gwyddonol a'r newyddion. Cofia am y pryder ar wynebau trigolion Aberfan a oedd yn cyfleu yn union eu teimladau. Wrth feddwl yn ol i'r darllediadau o foddi Cwm Celyn mae'n cofio gweld pobl yn cario dodrefn o'u cartrefi, ac yn trafod gwarth y digwyddiad a'i edmygedd o'r protestwyr. Yn ystod Coroni Elizabeth II roedd yn y fyddin ac yn gorfod cymryd rhan mewn gorymdaith, ond mae'n hollol ddifater am y Frenhiniaeth ar y cyfan. Yr hyn a gofia'n arbennig o'r teledu yn ystod Streic y Glowyr yw trais yr heddlu, Margaret Thatcher, a McGregor yn cuddio ei wyneb mewn bag papur.

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment