Skip to main content

Yn y ddaer: Eisteddfod 2012

Yn yr union fan hwn, 4,000 o flynyddoedd yn ôl, claddodd trigolion Bro Morgannwg rai aelodau o'u cymuned.
Adeiladwyd casgliad o domenni claddu cymhleth a thrawiadol i nodi man gorffwys neu fan preswyl eu (ac ein?) cyndeidiau.
Yn ystod gaeaf garw 1939-40, datgloddiwyd yr henebion archaeolegol hyn gan Syr Cyril Fox,
Cyfarwyddwr yr Amgueddfa Genedlaethol. O'i gwmpas, roedd y teirw dur eisoes yn paratoi'r tir cyn
adeiladu maes awyr yr Ail Ryfel Byd yma yn Llandŵ.
Syr Cyril Fox, y Foneddiges Fox a “hanner dwsin o ddynion caib a rhaw” yn archwilio olion y gorffennol. Roedd y gaeaf hwnnw ym 1939-40 gyda'r oeraf ar gofnod. Roedd y dyfodol yn edrych yn llwm iawn.
Oedd pobl yr Oes Efydd yn dathlu cylch bywyd, neu'n galaru?
A yw'r cylchoedd defodol hyn yn cynrychioli cylchoedd bywyd a marwolaeth?

Gwelediadau:
2606
Ffefrynnau:
0
Casgliad wedi’i greu:
25/07/2012

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment