Skip to main content

Tyddyn Llainfadyn

Adeiladwyd tyddyn Llainfadyn yn Rhostryfan ym 1762. Gwyddom mai Ann a Hugh Williams, chwech o blant, morwyn a lletywr oedd yn byw yma erbyn 1861.
Mae'n anodd dychmygu lle'r oedd pawb yn cysgu! Roedd Hugh Williams, fel y mwyafrif o ddynion yr ardal yn y cyfnod hwnnw, yn gweithio yn y chwareli lleol a oedd yn allforio llechi i bedwar ban byd. Ond nid oedd y ddibyniaeth ar ffermio wedi peidio'n llwyr.
Roedd gan bob tyddyn ychydig erwau o dir a beudai i gadw anifeiliaid. Gwaith y merched fel arfer oedd gofalu am y tyddyn, y gwartheg, yr ieir a'r moch. Symudwyd yr adeilad i'r Amgueddfa Werin Cymru ym 1962.

Gwelediadau:
7578
Ffefrynnau:
0
Casgliad wedi’i greu:
19/10/2010

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment