Skip to main content

Eliot Crawshay-Williams

Ganed Eliot Crawshay-Williams ym 1879, yn Llundain i Arthur John Williams a Rose Harriette Thompson Crawshay. Roedd yn ddisgynnydd uniongyrchol o’r teulu Crawshay a adeiladodd Gastell Cyfarthfa. 

Treuliodd Eliot gyfnod yn gwasanaethu’n swyddog yn y fyddin yn Lloegr ac yna India cyn cyfnod o deithio ym Mhersia. Ysbrydolodd y cyfnod hwnnw ei lyfr ‘Across Persia’ a gyhoeddwyd ym 1907. Yn ogystal â’i waith yn awdur ac yn swyddog yn y fyddin, roedd yn wleidydd a bu’n Aelod Seneddol. Bu farw Eliot ym 1962 yng Nghaint. 

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment