Skip to main content

Casgliad o weithiau artistig yn ymwneud â Gwlyptiroedd Casnewydd, Gwarchodfa Cynffig a Chastellmartin gan Artstation, 2025

Mae’r lluniau a’r ffilmiau hyn yn cynrychioli gwaith ysgogol yr artistiaid Glenn Davidson ac Anne Hayes: Artstation, a wnaeth ymchwilio i synau a chynefin chwilota bwyd y gardwenynen feinlais (Bombus sylvarum) sydd dan fygythiad. 

Daeth gosodiad dros dro, yn ystod y gaeaf, â thirwedd sain yr haf yn ôl, a lliwiau dwys y blodau y maent yn dibynnu arnynt. Roedd y gwaith yn cynnwys gwrando ar dirwedd sain wedi’i recordio gyda barddoniaeth gan Phillip Gross.

Cynhaliwyd y sesiynau ymgysylltu hyn yng ngwarchodfa’r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar yng Ngwlyptiroedd Casnewydd yng Ngwastadeddau Gwent. Comisiynwyd y gwaith hwn fel rhan o brosiect Natur Am Byth! gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar y cyd â’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn.

Am yr artistiaid: Artistiaid gweledol yw Glenn Davidson ac Anne Hayes: Artstation,

sy’n gweithio mewn maes cymdeithasol yn tynnu dyheadau o’r ddau orchymyn sef cyfiawnder cymdeithasol ac argyfwng ecolegol. Wedi’i sefydlu ym 1990 mae Artstation wedi gweithio yng Nghymru ac yn rhyngwladol trwy berfformiadau, ffilm ddigidol, gosodiadau ac yn fwy diweddar cyfryngau sain. 

Mae integreiddio celf a thechnoleg wedi bod yn sbardun allweddol sydd wedi llunio a chryfhau persbectif lleol a rhyngwladol. 

Mae eu harfer yn cael ei ganmol gan y beirniaid am ei ddyfeisgarwch cyfoes a’i ragwelediad.

Gwelediadau:
54
Ffefrynnau:
0
Casgliad wedi’i greu:
06/10/2025

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment