"anweladwy.", prosiect celf gan Hedydd Ioan, 2025
Roedd anweladwy. yn un o’r prosiectau a oedd yn rhan o raglen Natur am Byth! Yn benodol, roedd yn edrych ar waith criw Natur am Byth! ar draws Llŷn a Môn. Mae anweladwy. yn ddarn amlddisgyblaethol gan yr artist Hedydd Ioan sy’n gwahodd y gynulleidfa i adlewyrchu ar ei pherthynas â’i chynefin a’r natur o’i chwmpas drwy ffurflen arolwg anweladwy. Mae yna ddarn llais, sain a ffilm i gyd-fynd a’r ffurflen a gafodd ei chreu wrth ymchwilio a datblygu’r rhywogaethau a oedd yn cael eu gwarchod drwy’r cynllun. Mae’r gwaith terfynol i’w weld ar archif Cyfoeth Naturiol Cymru. Wrth ddatblygu’r gwaith, fe aeth yr artist drwy broses o ymchwilio a chydweithio ag ysgolion lleol i rannu a datblygu syniadau o’r gwaith. Yma yn archif Casgliad y Werin Cymru mae’n bosib gweld casgliad o’r gwaith ymchwil, datblygu a rhannu a gafodd ei wneud yn ystod gaeaf 2024.
Am yr artist: Mae Hedydd Ioan yn artist sydd yn gweithio gyda ffilm, perfformio a cherddoriaeth i archwilio atgofion, hunaniaeth a’n perthynas â natur a’r byd o’n cwmpas. Mae’n byw yn Nyffryn Nantlle ac yn gweithio yn Stiwdio Cadnant, Caernarfon.
More collections with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment