Skip to main content

Trafnidiaeth a Diwydiant: Rheilffordd Cyffordd Aberhonddu a Merthyr

Agorwyd y rheilffordd hon ym 1863 yn wreiddiol yn cysylltu Aberhonddu â Dowlais ger Merthyr Tudful. O fewn ychydig flynyddoedd roedd yn bosibl ymuno â phrif linellau a theithio ledled y wlad. Roedd y llwybr yn rhedeg tua'r gogledd o dwnnel y copa yn Torpantau i lawr llethr serth saith milltir o hyd drwy Dal-y-bont i Gyffordd Talyllyn ac yna i'r gorllewin i Aberhonddu neu tua'r gogledd i Henffordd. Crëwyd Station Road sy’n arwain at yr orsaf ynghyd â phont ffordd ar draws yr afon Wysg a roddodd y mynediad uniongyrchol cyntaf i’r A40. Roedd presenoldeb y rheilffordd yn darparu gwaith, yn gyfle i deithio ar gyfer cyflogaeth a mynd â deunydd a chynnyrch i ac o farchnadoedd llewyrchus De Cymru ddiwydiannol. Fe wnaeth twristiaeth yn enwedig o’r meysydd glo poblog a’r gweithfeydd haearn o amgylch Merthyr alluogi siopau, caffis, tafarndai a Gwesty’r Wysg i ffynnu.

Gwelediadau:
525
Ffefrynnau:
0
Casgliad wedi’i greu:
07/02/2025

More collections with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment