Skip to main content

Mannau Addoli: Eglwys Sant Tetti, Llandeti

Saif yr eglwys ar ei phen ei hun ar lan ddeheuol yr afon Wysg ar hyd y B4458 i'r dwyrain o Dalybont. Y cyfeiriad cyntaf at yr adeilad oedd ym 1291. Mae'r lleoliad, siâp hirgul y fynwent wreiddiol a'r piler arysgrif hynod ddiddorol i gyd yn awgrymu tarddiad canoloesol cynnar. Mae'n adeilad syml gyda chwt cloch Fictoraidd yn y pen gorllewinol. Mae peth anghytundeb ynghylch y sant y cysegrwyd yr eglwys iddo; y dewis oedd rhwng Sant Dedyw a pherthynas y Brenin Brychan chwedlonol, neu Sant Tetta, abaty Wimbourne o'r 6ed ganrif. Wedi clywed fod Siarl 2 wedi dychwelyd i Brydain honnir i Gyrnol Piwritanaidd Jenkin Jones danio ei bistol at ddrws yr eglwys – mae twll yn weddill hyd heddiw. Mae rhan o'r fynwent wedi'i rhoi fel man gorffwys olaf i'r 310 o gyn-filwyr y daeth eu dyddiau i ben yn Nhŷ Crossfield, cartref gofal y Lleng Brydeinig. (yn ôl i Buckland House nawr)

Gwelediadau:
124
Ffefrynnau:
0
Casgliad wedi’i greu:
07/02/2025

More collections with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment