Skip to main content

Tirwedd: Talybont ar Wysg

Mathau o greigiau cyfres Defonaidd sy'n dominyddu'r ardal gan roi ei liw coch nodweddiadol i'r pridd. Mae gwaelod dyffryn Wysg yn cynnwys tywod a cherrig llaid Ffurfiant St Maughan ynghyd â thywod a graean afon yn gorchuddio dyddodion rhewlifol. Mae Cerrig Brown o'r cyfnod Defonaidd isaf yn ffurfio'r ucheldiroedd sy'n codi i'r gogledd ac i'r de o'r afon. Mae calchfaen carbonifferaidd yn sail i rostir Penrhiw Calch gan ffurfio tirwedd fwy tonnog. Mae siâp U dyffryn Caerfanell i’r de o gronfa ddŵr Talybont a’r twmpathau marian helaeth sy’n ffinio ag afon Wysg, y tu hwnt i dwnnel Ashford ar hyd y B4558 i’r dwyrain o Dalybont, yn dystiolaeth gref o rewlifiant.

Gwelediadau:
98
Ffefrynnau:
0
Casgliad wedi’i greu:
07/02/2025

More collections with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment