Skip to main content

Neuadd y Dref, Y Barri

Daeth cynlluniau i adeiladu Neuadd y Dref y Barri mewn arddull neo-Baróc i'r amlwg yn 1903, gan gwmpasu cynlluniau ar gyfer adeilad tua theirgwaith maint y prosiect gorffenedig yn 1908, gyda chyllid gan Ymddiriedolaeth Andrew Carnegie. Cyn hynny roedd siopau a thai yn sefyll ar y safle, a dymchwelwyd rhain ar gyfer y prosiect.

Gydag arwyneb mawreddog a thŵr cloc, yn fuan daeth yr adeilad yn dirnod i’r Barri. Yn wreiddiol byddai'r neuadd yn gartref i Gyngor Dosbarth Trefol y Barri a llyfrgell. Wedi'i leoli ar Sgwâr y Brenin, a elwid fel yn wreiddiol yn ‘Sgwâr y Cyngor’, mae’r safle’n lleoliad cymunedol pwysig, er enghraifft, wrth nodi digwyddiadau megis diwedd yr Ail Ryfel Byd yn 1945.

Gydag adferiad yr adeilad yn y 2000au, ac adeiladu llyfrgell newydd y tu cefn i'r neuadd, mae'r safle yn parhau i fod yn rhan bwysig o'r Barri hyd heddiw.

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment