Gofal iechyd yn ardal y Barri
Gyda thŵf aruthrol yn poblogaeth tref y Barri a'r cyffiniau erbyn y 1890au oherwydd datblygiad Dociau'r Barri, roedd angen cynyddol am ofal iechyd a meddyginiaeth yn yr ardal. Ym mis Rhagfyr 1908, agorodd ysbyty pwrpasol ar Wyndham Street, gan ddisodli ysbyty cynharach a oedd wedi gwasanaethu'r dref ers 1895 gyda chwe gwely. Roedd gan yr Ysbyty Damweiniau Cyffredinol a Llawfeddygol newydd saith ar hugain o welyau a chyfleusterau ar gyfer llawdriniaeth. Ymunodd â’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 1948 a daeth yn Ysbyty Cymunedol y Barri yn 1973. Disodlwyd hwn ei hun gan ysbyty cymunedol newydd a gwblhawyd yn 1995.
Gwasanaethwyd trigolion y Barri hefyd gan Ysbyty Sili a adeiladwyd yn yr 1930au ar gyfer cleifion yn ddioddef y diciâu. Yn 1948 daeth o dan gyfrifoldeb Bwrdd Ysbytai Cymru, gan ddatblygu Sili yn ysbyty cyffredinol. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd wedi trin clwyfedigion rhyfel, yn enwedig gan gynnwys y rhai achubwyd o Dunkirk ym 1940. Yn ardal Penarth, mae Ysbyty Llandochau, a agorwyd 1933, yn darparu gofal iechyd pellach i drigolion Bro Morgannwg.
More collections with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment