Skip to main content

Dymchwel Thompson Street, Y Barri

Yn 1972, cafodd Thompson Street, ardal hanesyddol ym Marri ei ddymchwel i raddfa eang gyda'r nod o wella amodau byw yn y dref. Yn gynt, roedd y stryd yn cysylltiad pwysig rhwng canol y dref a'r dociau. Roedd yna nifer o siopau a clybiau cymdeithasol hefyd, ac felly daeth Thompson Street yn lleoliad ariannol ar ei hunain. Er gwaethaf hyn, gyda datblygiad y dociau yn ystod y pedwaredd canrif ar bymtheg, wnaeth poblogaeth dynion y dref chwyddo ac o ganlyniad, datblygodd Thompson Street enw am difrod a 'prostitution'. Erbyn y 1970au, daeth amodau gwael tai yr ardal i'r golwg, gyda report yn darganfod 13 o dai yn 'anaddas' er mwyn byw yno, 7 yn 'weddol' wael, a dim ond 2 yn 'iawn'. Wnaeth cliriad a dymchweliad y stryd a'r eiddo effeithio o leiaf pumdeg teulu ac hefyd rhai oedd yn byw ar ben eu hun. Ond, gyda datblygiadau tai yn 'Gibbonsdown' a 'Buttrills' yn cael eu adeiladu yn y cyfamser, roedd yna tai parod i bobl symud yn lleol. Wrth dymchwel y stryd, collwyd o tirnodau lleol bwysig hefyd, gan gynnwys yr adeilad eiconig Lloyds Bank. Er nad oedd tafarndai swyddogol ar Thompson Street, roedd sefydliadau cymdeithasoedd yn llenwi'r fwlch, gyda nifer, fel yr 'RAOB' a'r 'Ex-Servicemen's Club' (yn gynt 'Seamen's Rest') yn cael eu dymchwel ar yr amser. Yn ystod rhan fwyaf y gwaith dymchwel, roedd y stryd ar agor i draffig ac defnyddiwyd 'cranes' bach gyda 'wrecking balls'. Cafodd rhai o'r hen blotiau tai hefyd eu defnyddio fel maes parcio. O ganlyniad y dymchwel a'r datblygiad wnaeth dilyn, cafodd nifer o'r dai eu ail-adeiladu, yn sicrhau amodau byw gwell i'r gymuned.

Gwelediadau:
633
Ffefrynnau:
0
Casgliad wedi’i greu:
22/02/2024

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment