Skip to main content

Steep Holm

Ynys fechan ym Môr Hafren oddi ar arfordir de Cymru yw Steep Holm (neu weithiau 'Ynys Ronech'). Er nad yw pobl wedi byw ar yr ynys ers y 1920au, erbyn heddiw mae'n safle pwysig ar gyfer natur a chadwraeth. Yn 1150 sefydlwyd Priordy Awstinaidd Sant Mihangel ac wrth i'r fasnach bysgota dyfu, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, adeiladwyd gwesty a thafarn. O'r cyfnod Fictoraidd ymlaen daeth yr ynys yn fwyfwy caerog gyda chyflwyniad chwe safle gwn. Yn yr Ail Rhyfel Byd, cafodd byst chwilolau, safleoedd lansiwr rocedi a batris gynnau mawr eu adeiladu. Yn 1976, prynwyd yr ynys gan Ymddiriedolaeth Goffa Kenneth Allsop gyda'r nod o gadwraeth. Heddiw, nodir yr ynys fel gwarchodfa natur a safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig. Mae'r ynys yn cael ei chynnal gan wirfoddolwyr, gydag ymwelwyr yn gallu ymweld rhwng Ebrill a Hydref pob blwyddyn.

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment