Straeon a Thirwedd Newidiol, Safbwynt Ffermwr
Cefndir y prosiect
Cydnabuwyd gan Grŵp Gweithredu Lleol Partneriaeth Datblygu Gwledig Abertawe fod y gwaith llethol y mae’n rhaid ei wneud yn y sector ffermio ac amaethyddol yn cael effaith gorfforol ar y rheini sy’n gweithio yn y maes, a hefyd yn rhoi straen sylweddol ar iechyd meddwl rhai ffermwyr a gweithwyr y tir, rhywbeth nad yw bob amser wedi'i gydnabod yn agored gan y rheini yn y sector. Mae hyn wedi dod yn fwy amlwg o ganlyniad i'r pandemig a'r holl straen ychwanegol a ddaeth i amlygrwydd; ond hefyd, mae aelodaeth y Grŵp Gweithredu Lleol wedi ehangu i gynnwys mwy o gynrychiolaeth amaethyddol ac mae hyn wedi darparu dealltwriaeth gliriach o'r anghenion a'r heriau a wynebir gan ein cymunedau ffermio yn Abertawe.
Gwyddwn fod ffermwyr yn wynebu oriau hir o waith yn feunyddiol, y maent fel arfer yn ei wneud ar eu pennau eu hunain, sydd mewn rhai achosion yn gallu arwain at deimladau o unigedd ac unigrwydd. Mae amodau tywydd amrywiol, bygythiad o gnydau'n methu a cholli da byw, newidiadau mewn deddfwriaeth amgylcheddol a'r sefyllfa wleidyddol wedi arwain at golli cyfleoedd, cau marchnadoedd i anifeiliaid a chyfyngu ar lwybrau cyflenwi; mae hyn i gyd wedi cyfrannu at bwysau ariannol cynyddol, gan adael y rheini yn y sectorau amaethyddiaeth a garddwriaeth yn agored i niwed.
Mae'n amlwg, er ein bod yn byw mewn oes lle mae mwy o bobl yn agored i drafod pryderon ynghylch iechyd meddwl, mae'n ymddangos mai'r demograffig yw'r rheini yn y grŵp oed iau, y mae eu ffordd o fyw yn tueddu i fod yn fwy cosmopolitaidd yn hytrach na'r rheini dros 40 oed ac sy'n gweithio yn y sector amaethyddol. Er gwaethaf y newidiadau hyn, mae llawer o warthnodau hirsefydlog o hyd yn y diwylliant ffermio sy'n atal trafodaethau agored ar iechyd meddwl yn enwedig ymhlith dynion ifanc. Oherwydd hyn, mae dealltwriaeth pobl o'r pwnc yn gyfyngedig ac nid ydynt yn ymwybodol o'r arwyddion mewn perthynas ag iechyd meddwl, gan eu gadael yn amharod i siarad am eu pryderon ag aelodau'r teulu, ffrindiau neu weithwyr proffesiynol; o ganlyniad, mae llawer wedi lladd eu hunain.
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi adrodd bod un gweithiwr amaethyddol yr wythnos yn y DU yn lladd ei hun. Yn ôl ystadegau, mae'r risg o hunanladdiad i ddynion sy'n gweithio yn y diwydiant amaethyddol bron dwywaith y cyfartaledd cenedlaethol.
Er mwyn cefnogi ffermwyr a gweithwyr y tir sydd efallai'n cael trafferthion yn dawel bach, mae angen i'r diwydiant a chymunedau lleol siarad am broblemau iechyd meddwl yn fwy agored, i gael gwared ar rywfaint o'r tabŵ sydd wedi datblygu dros y blynyddoedd, yn ogystal â'i gwneud yn haws ac yn fwy cyfleus i bobl ofyn am help.
Gan gadw hyn mewn cof, comisiynodd Grŵp Gweithredu Lleol Partneriaeth Datblygu Gwledig Abertawe "Straeon a Thirwedd Newidiol, Safbwynt Ffermwr" i ddogfennu a dathlu treftadaeth ffermio lleol gan edrych ar heriau a llwyddiannau gweithio ar y tir a sut mae arferion ffermio wedi newid dros y blynyddoedd, gan gysylltu â gwasanaethau cefnogi penodol i'r rheini sydd efallai'n cael anhawster, a hynny'n dawel bach, er mwyn cryfhau, cefnogi a chreu Abertawe wledig gadarn y mae ei hiechyd a'i lles yn gwella.
Y gobaith yw y bydd y comisiwn yn cymryd camau tuag at normaleiddio trafodaethau am les gan dynnu sylw at y bobl niferus sy'n dioddef o iechyd meddwl gwael. Adroddwyd y bydd 1 o bob 4 person yn dioddef o broblemau iechyd meddwl ar ryw adeg yn eu bywyd.
Nod y prosiect yw dogfennu treftadaeth a thraddodiadau ffermio a gwaith ar y tir yng Ngŵyr ac Abertawe Wledig fel nad yw'n gorffennol a'n cymunedau amaethyddol yn cael eu colli, ond yn cael eu deall a'u gwerthfawrogi gan genedlaethau'r dyfodol.
Partneriaeth Datblygu Gwledig Abertawe
Daw aelodau'r bartneriaeth o sefydliadau'r sector cyhoeddus a phreifat a'r trydydd sector, sy'n cynrychioli buddion cymunedau gwledig Abertawe. Mae Grŵp Gweithredu Lleol y Bartneriaeth yn goruchwylio'r rhaglen datblygu gwledig LEADER ar ran Cyngor Abertawe.
Rhaglen a arweinir gan y gymuned yw RhDG LEADER Abertawe a gyflwynir yn yr 8 ward gwbl gymwys, sef Mawr, Llangyfelach, Pontarddulais, Pen-clawdd, Fairwood, Llandeilo Ferwallt, Pennard a Gŵyr; ac fe'i cefnogir yn rhannol yn 3 ward gwasanaeth Clydach, Gorseinon a Thre-gŵyr.
Mae Grŵp Gweithredu Lleol Partneriaeth Datblygu Gwledig Abertawe yn ddiolchgar i nifer o'i sefydliadau partner am eu cyfraniad, sef Rhwydwaith y Gymuned Ffermio, Sefydliad DPJ, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Prifysgol Bangor a RABI am eu holl fewnbwn ar ddatblygu'r comisiwn, a'u cefnogaeth barhaus. Hoffai'r Bartneriaeth ddiolch hefyd i'r holl ffermwyr a'u teuluoedd am eu cyfraniad at y prosiect hwn.
Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru -
Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Bywgraffiadau'r Artistiaid
Gwneuthurwr ffilmiau dogfen o Sir Benfro yw Florence Browne. Mae'n frwd dros ddefnyddio ffilmiau fel offeryn er mwyn rhannu safbwyntiau sy'n cael eu tangynrychioli a newid y ffordd rydym yn gweld y byd. Mae wedi gweithio gyda chymunedau yng Nghernyw a De-orllewin Lloegr am bum mlynedd, gan greu ffilmiau, arddangosfeydd a rhaglenni radio sy'n adlewyrchu bywyd gwledig heddiw. Mae fel arfer yn ffilmio ar ei phen ei hun ac mae ei gwaith a'i hymagwedd yn bersonol ac yn rhoi cyfle i bobl adrodd eu straeon yn eu hamser eu hunain.
Mae hi bellach yn byw ac yn gweithio yng Nghymru a Straeon a Thirwedd Newidiol yw ei gwaith cyntaf ar y cyd â'r ffotograffydd Callum Baker ac mae wedi rhoi cyfle iddynt archwilio'r ffordd unigryw o fyw y gellir ymgolli ynddi ar gyfer pobl sy'n ymwneud ag amaethyddiaeth.
Ffotograffydd dogfen o Brydain yw Callum Baker, ac mae ei waith yn aml yn canolbwyntio ar themâu fel cysylltiad ac iechyd meddwl. Mae ei chwilfrydedd oes a degawd o dynnu lluniau o’r amrywiaeth o brofiadau dynol wedi creu proses sy'n canolbwyntio ar gydweithio â chyfranwyr yn lle eu trin fel gwrthrych. Mae'n ceisio dangos sut beth yw bywyd i bob unigolyn, ac mae empathi’n flaenllaw ym mhob prosiect.
Gyda'i gilydd, mae Florence a Callum wedi ceisio ymhelaethu ar leisiau a phrofiadau ffermwyr yn Abertawe wledig. Trwy'r arddangosfa hon, maent yn gobeithio creu pwynt cyswllt ar gyfer gweithwyr amaethyddol sy'n cael trafferth gyda rhai o'r materion yr edrychwyd arnynt, a rhoi cipolwg i'r cyhoedd ar fywydau pobl sy'n bwydo'r wlad.
More collections with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment