Skip to main content

Trychineb Aberfan

Casgliad o ddelweddau sy'n gofnod o drychineb Aberfan ar 21 Hydref 1966, pan lithrodd glo o'r domen wastraff uwchben y pentref i lawr y llethr gan ladd 144 o'r pentrefwyr, yn eu plith, 116 o blant. Cafwyd y Bwrdd Glo Cenedlaethol - a naw o weithwyr - yn euog o achosi'r ddamwain yn yr ymchwiliad a ddilynodd.

Mae'r ffotograffau yn dangos lleoliad y drychineb a'r difrod a wnaed ar y pryd pan gladdwyd Ysgol Gynradd Pantglas gan y tirlithriad, yn ogystal â chyfraniad y gymuned at y gwaith o geisio achub bywydau. Gwelir yma hefyd ffotograffau eiconig y ffotonewyddiadurwr Americanaidd I.C. Rapoport a dreuliodd amser gyda phobl Aberfan yn sylwi ac yn cofnodi'r hyn a ddigwyddodd yn yr wythnosau a ddilynodd.

I lawer daeth trychineb Aberfan yn symbol o'r colledion niferus a ddioddefodd teuluoedd yng Nghymru dros y degawdau yn sgil y diwydiant glo, ac o ddiymadferthedd cenedl fechan yn wyneb cyfalafiaeth.

Gwelediadau:
3902
Ffefrynnau:
0
Casgliad wedi’i greu:
29/09/2021

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment