Cyrchfan Gwyliau Ynys y Barri
Mae'r casgliad hwn yn dwyn ynghyd eitemau sy'n berthnasol i Ynys y Barri hanesyddol fel atyniad i dwristiaid, o ddiwedd Oes Victoria hyd canol y 20G. Gyda datblygiad diwydiant a Dociau'r Barri dechreuodd ymwelwyr dyrru i draethau euraid Ynys y Barri, gan deithio ar y rheilffordd newydd o dde Cymru ac ar y stemars a'r cychod i ymwelwyr oedd yn teithio o bier y Barri. Yn fuan iawn sefydlodd Ynys y Barri ei hun fel cyrchfan boblogaidd i lowyr de Cymru a'u teuluoedd ymweld am y diwrnod, ac i fwynhau atyniadau megis reid ffair 'Figure 8' y White Brothes a agorodd yn 1912, un o'r reidiau cynharaf. Fe wnaeth Collins gymryd drosodd y safle yn 1930 a symudodd cwmni White Brothers dros y ffordd i sefydlu parc difyrion 'White's Cosy Corner' a cheir 'dodgem'. Atyniad pwysig arall a ychwanegwyd oedd rheillfordd y Scenic Railway, a hynny yn hydref 1939 - strwythur pren newydd a godwyd yn lle'r hen 'Scenic Railway'. Rhwng y ddau ryfel byd, cafwyd ychwanegiadau megis prom a chysgodfan siarabang newydd yn ogystal
More collections with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment