Skip to main content

Abdulrahim Abby Farah - Llais Dros Ryddid

Ganed Abdulrahim Abby Farah yn y Barri yn 1919, ychydig fisoedd wedi i'r Terfysgoedd Hil ysgubo drwy'r dref honno a lleoliadau eraill yn ne Cymru. Roedd ei dad, Abby Farah, yn entrepeneur ac yn forwr o Somali; dyfarnwyd anrhydedd MBE iddo oherwydd y gwaith diflino a wnaeth yn ei gymuned; yr oedd yn aelod o'r British Colonial Club yn Stryd Thompson er enghraifft, ac yn un o sylfaenwyr y Domino Club yn ddiweddarach, a oedd yn gwasanaethu'r gymuned Somali, ond hefyd yn estyn allan i blant o bob hil. Saesnes o'r enw Hilda Anderson oedd mam Abdulrahim, a bu hi a'i gŵr yn cadw gwesty am gyfnod yn ogystal. Cafodd Abdulrahim ei fagu mewn cymuned fywiog, amlddiwylliannol yn Thompson Street ac fel gweddill y plant yn ei deulu, mynychodd Ysgol Gladstone Road ac yna Ysgol Ramadeg y Barri.

Roedd gallu gwarchod buddiannau pobl Somalia yn rhywbeth a ddaeth yn hollbwysig i Abdulrahim wrth iddo dyfu’n oedolyn, ac yn 17 oed, dan arweiniad ei dad, gadawodd Gymru gan ymuno gyda'r British Cololnial Service. Bu'n glerc ac yna yn ddiweddarach yn ynad yn Somalia. Yn Ystod yr Ail Ryfel Byd, bu'n ymladd gyda'r Lluoedd Prydeinig yng Ngorllewin Affrica, ac wedi'r rhyfel dychwelodd i Brydain i astudio ym Mhrifysgol Exiter i ddechrau ac yna ym Mhrifysgol Rhydychen, lle graddiodd yn ddiweddarach. Penodwyd Abdulrahim yn llysgennad Somalia i Ethiopia gan Weriniaeth Somalia a ffuriodd yn weriniaeth annibynnol yn yr 1960au. Yn ogystal, am ran helaeth o'r cyfnod rhwng 1965 ac 1972 bu'n cynrychioli Somalia yn y Cenhedloedd Unedig, gan ddal amrywiol swyddi fel gwladweinydd. Fe'i dyrchafwyd yn Is-Ysgrifennydd Cyffredinol dros Gwestiynau Gwleidyddol Arbennig rhwng 1979 ac 1989 ac chydnabyddir ei gyfraniad led-led y byd yn y trafodaethau a gynhaliwyd i negydu rhyddid Nelson Mandela.

Ymddeolodd Abdulrahim Abby Farah yn 1989, ond parhaodd i weithio er mwyn sicrhau gwell byd i bobl Somalia, gan sefydlu ysbyty ar gyfer rhai a anafwyd yn ddifrifol gan ffrwydron tir; yno, yn ogystal a chefnogi ac annog pobl ifanc gael addysg.

Aeth Abdulrahim Abby Farah ar daith anhygoel o Thompson Street y Barri i Efrog Newydd, gan ddilyn egwyddorion ei weledigaeth i sichrau rhyddid i'w bobl ei hun, ac i eraill. Bu farw ym mis Mai 2018 yn 98 oed.

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment