Skip to main content

Penylan House

Yn 1946 symudodd wyth person i'r cartref henoed cyntaf i Iddewon hŷn yn St John's Crescent yn Canton - y “South Wales and West of England Home for Aged Jews”. O fewn dwy flynedd daeth yn amlwg bod angen cartref mwy o faint, ac yn y man cafodd Holme Towers, tŷ mawr ym Mhenarth, ei brynu. Fodd bynnag doedd hwn ddim yn addas gan ei fod yn llawer rhy bell i deuluoedd oedd yn byw yng Nghaerdydd.

Symudwyd i Penylan House ar 15 Hydref 1958. Gwnaed yr adeilad yn fwy yn 1965.

Oherwydd gwaith adeiladu'r A48 Eastern Avenue yn yr 1970, bu'n rhaid dymchwel y Penylan House gwreiddiol, a chafodd cartref newydd ei agor yn 1972. Yn 2014 ailgodwyd y tŷ unwaith yn rhagor, y tro hwn gyda 73 o ystafelloedd en-suite ac y mae bellach yn gartref preswyl, cartref nyrsio a chartref gofal sy'n cael ei redeg gan Linc Cymru. Mae ganddo gegin kosher o hyd ac mae'n galluogi'r preswylwyr Iddewig i barhau gyda'u ffordd o o fyw, er bod lleihad yn y boblogaeth Iddewig yn golygu nad yw'r mwyafrif o'r preswylwyr yno bellach yn Iddewon.

Gwelediadau:
1582
Ffefrynnau:
0
Casgliad wedi’i greu:
21/10/2020

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment