Skip to main content

Caffis a Pharlyrau Hufen Iâ Cymreig-Eidalaidd

Dyma ddetholiad o gaffis a pharlyrau hufen iâ a sefydlwyd yn ardal Abertawe gan deuluoedd Eidalaidd a ymfudodd i Gymru. Daeth nifer o'r Eidalwyr yma o ranbarth Picinisco yn ne'r Eidal, gyda rhai teuluoedd yn ymfudo mor bell yn ôl â diwedd yr 1880au er mwyn chwilio am well bywyd. Yn y lle cyntaf, gwaith tymhorol a'u denodd, ond dros y degawdau a ddilynodd, aeth nifer ohonynt ati i sefydlu eu busnesau eu hunain, yn barlyrau hufen iâ a chaffis a siopau sglodion a physgod, gan fynd ati i fwrw eu gwreiddiau yma. Parhaodd nifer o'r busnesau gwreiddiol hyn hyd at yr 1940au, ac yna yn dilyn galwad gan lywodraeth y dydd am weithwyr o dramor i lenwi swyddi mewn diwydiant, daeth ton arall o Eidalwyr i Gymru yn yr 1950au, gan agor mwy o gaffis. Mae disgynyddion yr ymfudwyr hyn yn byw ac yn gweithio yma o hyd.

Gwelediadau:
3107
Ffefrynnau:
0
Casgliad wedi’i greu:
28/04/2020

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment