Y Clwb Domino
Roedd y Clwb Domino yn syniad a grewyd gan Mr Abby Farah ac a sefydlwyd gyda chymorth Achub y Plant. Gwelodd Mr Farah fod angen i blant Stryd Thompson a'r ardaloedd cyfagos gael rhywle i fynd i chwarae ac i ddysgu sut i fyw a gweithio gyda'i gilydd.
Dim ond o 1947 i 1951 y bu'r clwb yn rhedeg ond mae gan bawb oedd yn rhan ohono atgofion melys ohono. Meddai Lyn Ahmed wrth ysgrifennu amdanyno: 'Roedd eich bywyd cyfan yn troi o gwmpas y 'clwb'. Roeddech chi'n cael llawer o sylw. Doedd dim ffefrynnau, dim atgofion anhapus, dim ond cyffro. ' Ysgrifennodd Maureen Land hithau: 'Pwy bynnag oeddet ti'n eu henwi, roedden nhw yn rhan o'r Clwb Domino. Ni oedd Cynghrair y Cenhedloedd. '
More collections with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment