Skip to main content

Diwydiant a masnach yn y Drenewydd

Sefydlwyd y Drenewydd yn dref farchnad yn 1279 pan dderbyniodd siarter gan Edward I. Ers yr 1880au y mae hefyd wedi bod yn gysylltiedig â phatrymau masnach byd-eang, gan iddi ddod yn ganolfan bwysig i’r diwydiant gwehyddu tecstiliau a chynhyrchu gwlanen yng Nghymru. Yn sgil hyn daeth diwydiannu ar raddfa eang ar ffurf ffatrïoedd mawr i nodweddu’r dref. Gwelwyd cyfnod o newid mawr yn y boblogaeth hefyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg wrth i’r Drenewydd newid o fod yn dref farchnad gysglyd i fod yn ganolfan ddiwydiannol brysur. Daeth nifer o gwmnïau, megis Pryce Jones – y cwmni cyntaf yn y byd i werthu newyddau trwy’r post – a chwmni Laura Ashley a’u ffrogiau blodeuog eiconig i fwynhau sylw rhyngwladol.
Dyma rai cerrig milltir pwysig yn hanes y dref:
• 1793 Cynhyrchu gwlanen yn cael ei gyflwyno i’r dref am y tro cyntaf
• 1821 Agor y Montgomery Canol (o Drenewydd i Frankton yn Swydd Amwythig)
• 1836 Neuadd y Farchnad yn cael ei hagor ar gyfer gwerthu gwlanen
• 1859 Pryce Jones yn dechrau ei fusnes yn 50 Broad Street
• 1866 (Tachwedd 13) Pryce Jones yn derbyn ei archeb cyntaf gan y Frenhines Fictoria am wlanen Gymreig
• 1872 ( 29 Gorffennaf) cwmni’r Welsh Woollen Manufacturing Company (Cambrian Mills) yn cael ei ffurfio
• 1878 Vron Brickworks yn agor
• 1886 (Hydref 19) 800 yn gyflogedig yn Cambrian Mills a 100 darn o frethyn yn cael eu cynhyrchu yn wythnosol
• 1929 Llifogydd Mawr yn y dref
• 1937 Melin Kymric yn agor fel ffatri decstiliau
• 1956 (Ebrill 21) Delw Robert Owen yn cael ei ddadorchuddio yn Bank Park gan y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Willians, Ynys Hir
• 1967 (Hydref 19) Amgueddfa Decstiliau yn cael ei hagor gan Dr Iorwerth Peate
• 1980 Gwaith yn dechrau ar Ganolfa Siopa Ladywell

Gwelediadau:
1282
Ffefrynnau:
0
Casgliad wedi’i greu:
09/10/2019

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment