Skip to main content

Tai Eryri Dyffryn Conwy

Mae rhai o gartrefi cynharaf a mwyaf nodweddiadol Cymru i’w gweld yn Nyffryn Conwy. Mae Tai Eryri yn adeiladau deulawr o gerrig, gyda simdde dal ar bob talcen. Mae’r cynharaf yn dyddio o tua 1515, ac erbyn 1550 roedd yr arddull yn gyffredin.

Roedd y tai cynt, canoloesol, yn adeiladau unllawr wedi eu gwresogi gan le tân agored, myglyd. Serch hynny, mae rhai nodweddion tebyg, fel y gegin groes (lle mae’r drws cefn gyferbyn â’r drws blaen). Hefyd roedd y rhaniad pendant ar y llawr gwaelod yn parhau – rhwng y neuadd fel y man gwledda, a’r pen gwasanaeth ar gyfer paratoi bwyd a storio nwyddau.

Y wybodaeth fanwl am dai Eryri yw ffrwyth project cymunedol y Grŵp Dyddio Hen Dai Cymreig mewn partneriaeth â’r Comisiwn Brenhinol a gofnodir yn y gyfrol, 'Darganfod Tai Hanesyddol Eryri / Discovering the Historic Houses of Snowdonia' (RCAHMW, 2014).

Gwelediadau:
843
Ffefrynnau:
0
Casgliad wedi’i greu:
02/08/2019

More collections with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment