Ieithoedd Arysgrifau Meini Cynnar
Coffáu'r Meirw
Mae'r gwaith carreg sydd wedi goroesi o'r oesoedd canol cynnar yng Nghymru o bwysigrwydd arbennig oherwydd diflaniad llwyr, bron, deunyddiau darfodus fel adeiladau pren, ffabrigau a llawysgrifau. Mae gwaith carreg yn dangos i ni arddulliau o addurniad a chaligraffeg a oedd unwaith efallai'n ffasiynol mewn llawer o ddeunyddiau. Mae arysgrifau'n dweud llawer wrthym am ieithoedd Cymru a'u datblygiad mewn sain a sillafu.
Yn y cyfnod yn syth wedi'r Rhufeiniaid, o tua 400 OC i 600 OC, y cofadeiladau mwyaf trawiadol – hefyd yn Iwerddon ac ar hyd arfordir Môr Iwerydd o Lydaw i Argyll – yw'r cerrig arysgrifenedig 'Cristnogol Cynnar'. Dim ond rhai ohonynt sy'n bendant yn Gristnogol, ond mae'n debygol y codwyd y rhan fwyaf ohonynt o fewn cymunedau Cristnogol. Yn nodweddiadol maent yn coffáu'r meirw, weithiau'n nodi statws cymdeithasol yr ymadawedig, er enghraifft yn esgob, offeiriad, gwraig offeiriad, brenin, 'amddiffynnydd', 'arweinydd' (tovisaci), ynad neu'n feddyg (medicus). Mae rhai, fel y byddech yn disgwyl, yn dilyn traddodiad cerrig coffa Cristnogol is-Rhufeinig: enghraifft o hyn yw'r golofn sydd nawr yn yr eglwys yn Llanerfyl, Sir Drefaldwyn, yn coffáu Rustica, merch Paternius, tair ar ddeg oed, mewn llythrennau bras Rhufeinig llorweddol, ac yn diweddu gyda'r fformwla IN PA[CE], 'mewn heddwch'.
Ond mae canran uchel ohonynt wedi'u harysgrifo'n fertigol ac yn cynnwys dim llawer mwy nag enw'r ymadawedig a'i dad. Felly maent yn debyg i'r cerrig Ogam o'r un cyfnod yn Iwerddon ac mae'n debygol y codwyd llawer ohonynt gan fewnfudwyr o Iwerddon neu gan Gymry'n dilyn arferion Gwyddelig. Mae hyn yn esbonio pam mae cymaint ohonynt yn yr ardaloedd mwyaf agored i ddylanwad Iwerddon (mae 36 yn SirBenfro ond nid oes yr un yn Sir Fynwy) a hefyd goruchafiaeth enwau personol Gwyddelig arnynt. Yn Sir Benfro mae 25 arysgrif gynnar yn defnyddio sgript Ogam a/neu enwau Gwyddelig o'u cymharu ag un arysgrif yn unig gydag enwau Cymreig yn unig (hefyd nifer gydag enwau Lladin yn unig, a allai fod o'r naill gymuned).
Mae rhai arysgrifau'n defnyddio llythrennau Ogam a Rhufeinig, fel pe baent yn tanlinellu statws cyfartal y ddwy sgript a'r cymunedau a'u defnyddiodd. Enghraifft yw Carreg Crucywel, sydd nawr yn Amgueddfa Aberhonddu. Mae'r llythrennau Rhufeinig yn coffáu Turpillus, 'bachgen' Trilunus Dunocatus (ffurf gynnar ar yr enw Gwyddelig Dunchad). Roedd yr enw Rhufeinig Turpillus yn achosi problem, gan nad oedd llythyren P yn yr wyddor Ogam yn wreiddiol, a sain nad oedd yn bodoli yng Ngwyddeleg gynnar. Felly defnyddir llythyren Ogam siâp X yn ei lle, fel mae'n cael ei ddefnyddio ar Garreg Pumpeius Carantorius yn Amgueddfa Cerrig Margam. Enghraifft arbennig o arysgrif mewn llythrennau Rhufeinig yn unig ond gydag enw Gwyddelig, Corbalengas, yw'r garreg golofn o Benbryn, Dyffryn Bern, Ceredigion, a ffotograffiwyd gan y Comisiwn Brenhinol. Safai'r garreg yn wreiddiol ar garnedd yn gorchuddio carnedd amlosgi Rufeinig gynharach yn edrych dros y môr. Mae Corbalengas wedi'i sillafu Ordous, gair Ordovix, sy'n awgrymu fod ei deulu wedi bod yng Nghymru am ddigon hir i greu cysylltiad â llwyth yr Ordovices.
Arysgrifau Diweddarach
Erbyn dechrau'r nawfed ganrif roedd enwau Gwyddelig a gofnodwyd mewn arysgrifau wedi diflannu, gan fod y mewnfudwyr wedi mabwysiadu enwau Cymreig a chyfuno â'r boblogaeth leol. Mae carreg groes wedi'i cherfio yn eglwys Llanwnnws, Ceredigion, ag arysgrif Ladin arni, mewn llythrennau mewn ffurf a ddylanwadwyd gan lythrennu 'miniscule' llawysgrifau (sgript redol fach): mae'n gofyn 'Pwy bynnag sy'n darllen hwn, a all ef roi bendith i enaid Hiroidl mab Carotinn'. Mae enw'r tad yn ymddangos yn Wyddelig ond mae wedi rhoi enw sy'n bendant yn Gymreig i'w fab: Hirhoeddl, 'hir oed'.
Mae arysgrifau fel hyn yn dangos bod cerfwyr arysgrifau Cymraeg a'u noddwyr yn gyfarwydd â llawysgrifau. Yn anffodus, mae bron y cyfan o lawysgrifau Cymraeg y cyfnod wedi darfod – roedd yr ychydig sy'n bodoli, gan gynnwys Efengylau Lichfield, wedi gadael Cymru yn gynnar a'u cadw yn Lloegr Eingl-Sacsonaidd, ac yn cael eu gwerthfawrogi am eu cynnwys Lladin yn hytrach nag am yr ymylnodau mewn Hen Gymraeg y maeieithyddwyr modern yn eu hystyried mor bwysig. Mae'n annhebyg y byddai unrhyw lawysgrif wedi'i hysgrifennu yn yn bennaf Gymraeg yn cael ei chadw tramor. Felly gellid gobeithio y byddai arysgrifau cerrig Cymru'n gwneud iawn am y diffyg. Yn anffodus, roedd gafael y traddodiad epigraffegol Rhufeinig a Christnogol mor gryf fod cerrig coffa'n cael eu hysgrifennu yn Lladin yn unig am ganrifoedd lawer. Yr un eithriad nodedig yw'r arysgrif yn Eglwys Tywyn, Sir Feirionnydd, sydd o bosib yn dyddio o ddechrau'r nawfed ganrif, yn coffáu Tengrumui, gwraig Adgan, a Cun, gwraig Celen, gyda brawddeg yn Hen Gymraeg: tricet nitanam, 'mae'r galar-golled yn parhau'. A ddefnyddiwyd y famiaith gan mai menywod oedd yr ymadawedig?
Yn yr arysgrifau diweddarach mae enwau Rhufeinig yn diflannu (ar wahân i'r rheini a oedd wedi brodori'n llwyr yng Nghymru) ac mae enwau Cymreig gan fwyaf, gydag enw Seisnig weithiau ac o bosibl hyd yn oed enw Llychlynaidd mewn llythrennau rwnig, fel sydd ar y groes yng Nghorwen, Sir Feirionnydd. Weithiau gellir adnabod ffigurau hanesyddol yn yr enwau. Felly, mae croes yn eglwys Llanilltud Fawr, Morgannwg, yn cofnodi 'Paratôdd Houelt y groes hon ar gyfer enaid ei dad Res'. Mae'n rhaid mai hwn yw Hywel ap Rhys, brenin Glywysing, a ochrodd gydag Alfred, brenin Wessex, yn yr 880au. Mae'r groes fawreddog yn nodweddiadol o'r cyfnod diweddaraf hwn, pan mae cerfluniaeth bwysig wedi'i chanolbwyntio yn y de-ddwyrain cyfoethog. Mae enghraifft ddiweddarach sydd wedi dirywio, yn yr eglwys yn Llanarthne, Sir Gaerfyrddin, yn datgelu newidiadau cymdeithasol ac ieithyddol yng Nghymru tua 1100. Mae'r arysgrif wedi'i difrodi (ym 1833 defnyddiwyd y groes fel camfa), ond yn y canol ar y chwith mae enw'r cerflunydd, Elmon, ac ar y dde mae fformwla yn Ffrangeg, merci et g[ra]ce.
Cyfrannwyd y stori gan: CBHC
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment